Mae gan Geldards ymrwymiad ers blynyddoedd maith i ddarparu cyngor yn y Gymraeg. Sefydlwyd y cwmni ym Merthyr Tudful ym mlynyddoedd cynnar y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac agorodd ein swyddfa gyntaf yng Nghaerdydd yn Sgwâr Mount Stuart yn 1854. Rydym yn un o gwmnïau cyfreithiol hynaf Cymru ac rydym yn cynghori llawer o gwmnïau a sefydliadau cenedlaethol blaenllaw.
Mae gennym gyfreithwyr sy’n medru’r Gymraeg yn ein swyddfa yng Nghaerdydd yn y rhan fwyaf o feysydd cyfreithiol ac maent yn cynghori nifer o gleientau amlwg, yn arbennig Llywodraeth Cynulliad Cymru. Mae Geldards hefyd yn cynrychioli Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Amgueddfa Cymru, yn cynnwys mewn cysylltiad â’u Siarteri Brenhinol newydd a roddwyd yn 2007, sef blwyddyn canmlwyddiant y ddau sefydliad. Rydym hefyd yn cynghori cleientiau eraill fel S4C, Cyngor Celfyddydau Cymru a Hybu Cig Cymru drwy’r Gymraeg.
Gallwn addasu ein gwasanaethau Cymraeg yn ôl y gofyn – os mai dim ond am sgwrs yn Gymraeg yr ydych, neu ohebu’n Gymraeg, neu drafod mater yn Gymraeg o’i ddechrau i’w ddiwedd, gallwn wneud hynny.
Rydym hefyd yn gyson yn adolygu cyfieithiadau Cymraeg o ddogfennau cyfreithiol Saesneg er mwyn eu gwirio, ac rydym yn gweithio’n rheolaidd gyda chwmnïau cyfieithu a chyfieithwyr mewnol er mwyn darparu gwasanaeth effeithlon a rhesymol ei gost.
